Strap line image
A  A  A
Ynghylch Ynys MônBeth i'w wneudBle i ArosDigwyddiadauTeithio Yma

Graddfeydd Llety

Mae'r holl raddfeydd llety ar gyfer 2009 wedi'i selio ar set newydd o safonau ansawdd cyffredin, wedi'i cytuno gan Croeso Cymru, Visit Britain, Visit Scotland a'r AA. Mae'r cyfraddau seren yn adlewyrchu cyfleusterau ac ansawdd y profiad.

Efallai bod rhai graddfeydd yn wahanol o rai'r flwyddyn flaenorol oherwydd anghenion y cynllun newydd. Fodd bynnag, nid yw newid yn golygu bod yr ansawdd yn wahanol felly ni ddylid cymharu'r radd seren flaenorol gyda'r seren sydd wedi ei rhoi ar gyfer 2009.

Canllaw i sicrwydd ansawdd

Mae'r holl lety a gynhwysir ar y safle wedi'i graddio ar sail ansawdd yn flynyddol - fel y gellir gwneud eich dewis gyda hyder, gan wybod fod pob llety wedi ennill graddfa seren yn ôl yr ansawdd a'r cyfleusterau a gynigir. Golygir graddfeydd seren dylech fod yn siŵr o safonau a chewch ddewis y llety sy'n iawn i chi.

Croeso Cymru / AA yw'r unig asiantau asesu a gwirio yng Nghymru, yn gwirio dros 5,000 o lefydd. Sêr Croeso Cymru yw eich canllaw i ansawdd. Mae'r Cynllun Ansawdd Graddio Seren yn gymwys ar gyfer pob math o lety: wedi'i gwasanaethu - gwestai, gwely a brecwast, llety fferm, hostel, bythynnod hunan darpar a fflatiau a charafannau twrio a thŷ gwyliau / parciau carafannau.

Ceir rhagor o fanylion am feini prawf graddio a gwobrau ar safle we Llywodraeth y Cynulliad.

Ymwelwyr gydag anableddau

Mae Croeso Cymru yn cynghori pob darparwr twristiaeth i baratoi "Datganiad Hygyrchedd" ar gyfer ymwelwyr. Dyma'r unig ffordd i sicrhau fod disgrifiad hygyrchedd addas ar gyfer pob llety.

Wrth fwcio, cofiwch ofyn a ydi datganiad hygyrchedd wedi'i baratoi ar gyfer y llety.

Unrhyw broblemau?

Os cyfyd problemau gyda'ch llety dewisol, cyfeirir at yr adain dwristiaeth ar wefan Llywodraeth y Cynulliad.

Safle Gwe Llywodraeth Cynulliad Cymru - cynlluniau graddio llety

 
 

Cyngor Sir Ynys Môn, Llangefni. Ynys Môn. LL77 7TW. Ffôn: (01248) 750057. Ebost: twristiaeth@ynysmon.gov.uk
Hawlfraint Cynnwys a Delweddau © 2009
cymorth : hygyrcheddgwadiad : map y safle : polisi preifatrwydd : canolfannau croesogwybodaeth defnyddiol : adborth