Bwyd a Diod

Ye Olde Bulls Head Inn ym Miwmares
Felly, ar ôl diwrnod blinedig o weithgareddau yn Ynys Môn, rydych yn barod am bryd da o fwyd, heb ffwdan, mewn amgylchiadau braf. Bwyty ger y cei, efallai, ar gyfer pysgod ffres a ddaliwyd y diwrnod hwnnw, neu gig oen lleol gyda llysiau ffres o gegin y ffermdy.
Enillodd yr ynys ei henw da fel “Môn Mam Cymru” mewn dyddiau caled, a byddwch yn canfod fod nifer fawr o fwytai Ynys Môn yn ymfalchïo mewn cynnig cynnyrch lleol. Mae gennym hyd yn oed ein Gŵyl Llymarch a Bwyd ein hunain, sy’n denu cyflenwyr stryd fawr a pherchnogion bwytai.
Yn wir mae Ynys Môn wedi ennill enw da fel cyrchfan fwyd, ac nid oes ffordd well o ddangos hyn na chael gafael ar ein llyfryn “Gwir Flas Môn”, gyda chyngor ynghylch ble i fynd, beth i’w fwyta, rysetiau, gyda chymeradwyaeth y cogydd teledu Bryn Williams.
Byddwch yn canfod marchnad gynnyrch lleol yn yr ysgol uwchradd leol ym Mhorthaethwy; efallai na wnewch chi byth eto edrych ar fwydydd parod yr archfarchnad yn yr un ffordd! Ond am fwyta allan – mae’r lleoliadau’n ysblennydd.