Strap line image
A  A  A
Ynghylch Ynys MônBeth i'w wneudBle i ArosDigwyddiadauTeithio Yma

Chwaraeon modur

Trac Môn

Dywedwyd ar goedd yn y byd rasio ceir bod Trac Môn sydd newydd ei agor a’i ddatblygu yn Nhy Croes rhwng Rhosneigr ac Aberffraw, yn rhywbeth arbennig iawn. Yn un peth, mae ganddo 4 cylch a ddyluniwyd yn hynod o sgilgar ac sy’n her i bob un sy’n hoffi ceir, o ddechreuwyr i rai ar lefelau proffesiynol a thu hwnt.

Mae’r archebion o bob cwr o’r DU gan glybiau a chymdeithasau ceir a moto beics yn dod i mewn mor gyflym â’r ceir rasio eu hunain!

Yn ogystal â chyfarwyddyd a hyfforddiant, bydd dyddiau o weithgaredd corfforaethol a chystadlaethau’n cael eu cynnal, ond i Andrew Môn Hughes, Swyddog y Wasg, y prif foddhad yw bod y prosiect yn awr ar ei draed ac yn mynd rhagddo “Gyda’r cylch GP Rhyngwladol, rwy’n credu ein bod ni, mewn termau dylunio, wedi cymryd y pethau gorau o draciau eraill a’u hymgorffori nhw i mewn i’n hun ni.  Bydd hwn yn herio’r rhai gorau.”

Bydd y lleoliad yn eich cyfareddu, gydag Eryri yn y cefndir a Môr Iwerddon ond ychydig o lathenni i ffwrdd.  Mae’n hawdd iawn deall y brwdfrydedd mawr a welir ynglŷn â photensial y trac - nid yw Andrew yn un da am guddio hynny - a gyda’r adnoddau a’r cyfleusterau ychwanegol a gynlluniwyd ar gyfer y lle, mae enw da Trac Môn fel atyniad ceir o’r radd flaenaf wedi’i sicrhau.
Ychydig filltiroedd i ffwrdd ym Modedern, gellir gweld y rhai fydd yn defnyddio Trac Môn yn y dyfodol yn ymarfer eu sgiliau yn Cartio Môn, cylch go-cart agorwyd yn ddiweddar.  Mae’n cael ei redeg gan Martin Williams, a’i wraig Eirian.
Mae gan y trac hwn yr holl gyfleusterau geir mewn lleoliadau cartio o’r dosbarth uchaf.  Mae’r trac pob tywydd wedi’i lifoleuo a gyda theiars tywydd gwlyb ar gael, mae yn gyrchfan hynod o boblogaidd gyda chwmnïau, grwpiau a theuluoedd.  Mae yna hefyd drac Cartiau Bychain llai i rai 3-7 oed - man arbennig o dda i’r holl deulu.

manylion yr atyniad

Ceir isod dolenni i fanylion ar ddau atyniad chwaraeon modur Ynys Môn

Trac Môn

Cartio Môn Karting

 
 

Cyngor Sir Ynys Môn, Llangefni. Ynys Môn. LL77 7TW. Ffôn: (01248) 750057. Ebost: twristiaeth@ynysmon.gov.uk
Hawlfraint Cynnwys a Delweddau © 2009
cymorth : hygyrcheddgwadiad : map y safle : polisi preifatrwydd : canolfannau croesogwybodaeth defnyddiol : adborth