Strap line image
A  A  A
Ynghylch Ynys MônBeth i'w wneudBle i ArosDigwyddiadauTeithio Yma

Rhwydwaith beicio cenedlaethol

Sustrans yw prif elusen trafnidiaeth gynaliadwy'r DU.  Ein gweledigaeth ni yw cael byd lle mae pobl yn dewis teithio mewn ffyrf sy’n fanteisiol i’w hiechyd a’r amgylchedd.  Pob dydd, rydym yn gweithio ar ddulliau ymarferol a blaengar o ddelio gyda’r sialensiau sy’n ein hwynebu ni i gyd.

Mae Sustrans wedi datblygu dau o lwybrau sy’n rhan o’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol ar draws yr ynys er mwyn tynnu sylw at y rhwydwaith ardderchog o lonydd tawel a llwybrau di-draffig sydd yn yr ardal.  Mae Lôn Las Cymru, sef Llwybr Cenedlaethol rhif 8 yn cychwyn/gorffen yng Nghaergybi ac yn mynd o gwmpas ymyl ddeheuol yr ynys cyn croesi i’r tir mawr ac am Gaerdydd!  Mae’n mynd allan o Gaergybi drwy Barc Gwledig Penrhos ar hyd Cob Stanley cyn pasio’r maes awyr yn Y Fali lle mae modd gweld yn rheolaidd awyrennau’r Llu Awyr Brenhinol yn ymarfer glanio.  Yna, mae Lôn Las Cymru’n defnyddio lonydd tawel i gyrraedd Soar a Bethel cyn mynd i lawr i Gors Malltraeth lle mae’n ymuno gyda Lôn Las Cefni sy’n cysylltu’r ddau Lwybr Cenedlaethol. 

O Bont Marcwis, mae modd beicio i Falltraeth neu Langefni neu barhau ar hyd Lwybr rhif 8 i Langaffo a Llanddaniel Fab ac yna ymlaen i Borthaethwy drwy Lanfair PG gyda chyswllt i’r orsaf reilffordd. Ym Mhorthaethwy, mae’r Llwybr yn croesi’r bont enwog ac ymlaen i Gaernarfon ar hyd ochr ddeheuol Afon Menai.
Mae llwybr beicio Arfordir Gogledd Cymru, Llwybr Cenedlaethol rhif 5 hefyd yn cychwyn/gorffen yng Nghaergybi cyn croesi canol yr ynys ar ei ffordd i Gaer. Mae Llwybrau 8 a 5 yn dilyn yr un trywydd allan o’r dref borthladd cyn gwahanu ym mhentref Y Fali. Mae Llwybr rhif 5 yn pasio Melin Llynnon yn Llanddeusant, sef yr unig felin wynt sy’n gweithio yng Nghymru ac sy’n lle ardderchog i gael gorffwys bach.
 
Llannerch-y-medd yw’r pentref nesaf ar y Llwybr ac mae yno nifer o lefydd i stopio a phrynu cyflenwadau. Mae’r rhwydwaith ardderchog o lonydd tawel yn mynd â chi wedyn i gyfeiriad Llyn Cefni lle mae modd ymuno gyda phen gogleddol Lôn Las Cefni. Ar ôl Pentraeth, rydych yn mynd i lawr i Afon Menai a thref dlos Porthaethwy lle gellwch groesi’r bont i gyrraedd Bangor a mynd i’r dwyrain tuag at drefi arfordirol Gogledd Cymru.

Gellir defnyddio’r ddau Lwybr Cenedlaethol i gael taith gylchol o gwmpas yr ynys gyda mynyddoedd Eryri’n gefndir godidog i’r daith, neu gellir eu cyfuno gyda Lôn Las Cefni a’r pedwar llwybr ‘adar’ i greu amrywiaeth o opsiynau sy’n mynd â chi i galon yr ynys arbennig hon.
Cliciwch ar y ddolen isod i weld fersiwn PDF, manylach o'r mapiau uchod.  

Rhwydwaith beicio cenedlaethol

Manylion hawlfrain llawn: Mwy Na A4 - atgynhyrchir y map hwn o ddeunydd yr Ordnance Survey gyda chaniatâd yr Ordnance Survey ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi © Hawlfraint y Goron. Mae atgynhyrchu heb ganiatâd yn torri hawlfraint y Goron a gall hyn arwain at erlyniad neu achos sifil. LA100023412, 2009.
 
 

Cyngor Sir Ynys Môn, Llangefni. Ynys Môn. LL77 7TW. Ffôn: (01248) 750057. Ebost: twristiaeth@ynysmon.gov.uk
Hawlfraint Cynnwys a Delweddau © 2009
cymorth : hygyrcheddgwadiad : map y safle : polisi preifatrwydd : canolfannau croesogwybodaeth defnyddiol : adborth